Mae tenantiaid newydd wedi symud i mewn i dŷ gwledig Fictoraidd yng Nghaergybi sydd wedi'i droi'n fflatiau.
Mae Plas Alltran wedi'i adfer a'i adnewyddu fel rhan o brosiect gwerth £1.5 miliwn, dros 50 mlynedd ers iddo gael ei ddefnyddio fel meddygfa.
Mae'r adeilad Gradd II yn cynnwys pedwar fflat un ystafell wely ac mae pob un bellach wedi'u gosod.
Yn ôl Cyngor Môn, mae'r datblygiad yn canolbwyntio ar ddiwallu galw lleol, yn cynnwys cefnogi pobl i gael llety diogel ac addas yn eu cymuned.
Ar ymweliad diweddar â'r fflatiau, dwyeddod y Cynghorydd Carwyn Jones, sy'n deilio portffolio tai: "Dyma enghraifft wych o roi bywyd newydd i adeilad hanesyddol pwysig a chreu cartrefi o ansawdd i bobl leol."
"Mae'n bleser gweld tenantiaid yn symud i mewn a dechrau'r bennod nesaf yn stori Plas Alltran."
"Mae'r datblygiad yn rhan o ymdrechion ehangach y cyngor i wella nifer y cartrefi fforddiadwy sydd ar gael ledled yr ynys, yn ogystal â diogelu a chyfoethogi treftadaeth adeiledig."
Wedi'i adeiladu'n wreiddiol rhwng 1890 a 1891, roedd Plas Alltran wedi ei restru fel un o'r adeiladau hanesyddol mewn perygl mwyaf yng Nghymru a Lloegr.
Yn 2020, nid oedd unrhyw gynlluniau ar gyfer yr adeilad hanesyddol, yn ôl ei gyn-berchennog a oedd yn Ne Korea ar y pryd.
Dywed y cyngor fod Plas Alltran wedi cael ei "adfer yn ofalus" ac wedi gwarchod cymeriad unigryw'r adeilad ar yr un pryd ag ymgorffori nodweddion ynni effeithlon er mwyn cyd-fynd â safonau byw modern.
Ychwanegodd Ned Michael, pennaeth tai Cyngor Môn: "Mae darparu tai diogel a fforddiadwy yn un o brif flaenoriaethau strategol y cyngor."
"Mae prosiectau, fel Plas Alltran, yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod pawb yn gallu galw rhywle yn gartref; gan wneud y defnydd gorau o adnoddau ac asedau sydd eisoes ar gael yn ein cymunedau."
"Cefnogwyd y prosiect arbennig hwn drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru a Cadw, gan dynnu'r adeilad oddi ar y rhestr risg, a'n caniatáu ni i ddiogelu dyfodol yr adeilad ar gyfer cenedlaethau i ddod."
Mae'r prosiect wedi cael ei gwblhau gan Gyngor Môn mewn partneriaeth â BTP Architects a chontractwyr arbenigol.


'Neges mewn Potel' ar gael yng Ngwynedd
Terry Phipps yn ailymuno MônFM
Chwech yn sefyll yn isetholiad Llanrug
Ras Gyfnewid Baton i ymweld ag Môn
Aberffraw: cyhuddo dyn o dinoethi anweddus