Mae teyrngedau wedi cael eu talu i feiciwr modur a laddwyd mewn gwrthdrawiad ym Mynytho, ger Pwllheli.
Bu farw Roger Hawcroft pan wrthdrawodd ei feic modur Yamaha du â char Volkswagen Polo coch ar yr B4113 brynhawn Sadwrn diwethaf.
Roedd Mr Hawcroft yn 67 oed ac yn byw ym Motwnnog.
Yn ôl ei deulu, bu farw "yn gwneud yr hyn yr oedd yn ei garu, yn y lle yr oedd yn ei garu, gyda'r haul ar ei wyneb a'r môr wrth ei ymyl".
Mewn datganiad drwy'r heddlu, ychwanegodd y teulu: "Er mor drist yr ydym, ni fyddai wedi dymuno dim byd gwahanol ac felly y bu."
"Rydyn ni'n gwybod faint o bobl oedd yno i'w helpu ar y diwrnod, yr arbenigwyr a'r bobl gyffredin, ac rydyn ni eisiau i chi nid yn unig wybod pa mor ddiolchgar ydyn ni, ond ein bod ni'n dawel ein meddyliau, ac yn dymuno'r un peth i bob person arall a wnaeth cymryd rhan."
"Mae ein mam annwyl yn gweddïo drosoch am byth."
Mae'r heddlu'n parhau i apelio am dystion a lluniau camera dangosfwrdd yn dilyn y gwrthdrawiad tua 3yp. Bu'r ffordd ar gau am sawl awr.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 26000326787.


Carcharu pedwar dyn am delio cyffuriau
Trydydd croesfan Menai yn "hanfodol" - cyngor
Tonnau: agor cwest i farwolaeth dynes ifanc
Dyn yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad beic cwad
Carcharu deilwr cocên o Gaergybi