Mae cwest wedi clywed bod dynes 18 oed wedi dioddef ataliad ar y galon mewn gŵyl gerddoriaeth yn Llanfaethlu.
Bu farw Lucy Halpin yn yr ysbyty yn dilyn argyfwng meddygol difrifol yn ystod gwyl Tonnau ar stad Carreglwyd yn oriau mân dydd Sadwrn 11 Gorffennaf.
Cafodd yr ŵyl ei chanslo gan y trefnwyr ar yr un diwrnod.
Yn ôl crwner Gogledd Orllewin Cymru, Kate Robertson, roedd rheswm i amau bod y farwolaeth yn annaturiol.
Mae archwiliad post-mortem wedi'i gynnal ond ar hyn o bryd nid oes achos swyddogol y farwolaeth wedi'i bennu.
Cafodd y cwest yng Nghaernarfon ei ohirio wrth i ymchwiliadau pellach barhau.
Mae apêl ar-lein er budd teulu Miss Halpin wedi codi dros £3,500.
Dywedodd ffrindiau a greodd yr apêl: "Byddai unrhyw un a oedd yn adnabod Lucy yn gwybod ei bod hi’n garedig, yn ofalgar ac yn ffrind da; roedd pawb o’i chwmpas yn gwybod pa mor ddeallus a doniol oedd hi."
"Roedd hi’n goleuo pob ystafell yr oedd yn camu i mewn iddi ac yn gwneud i bawb wenu bob tro."
Roedd Ms Halpin yn gweithio fel gweithiwr cymorth ac yn y bar a'r gwesty Breeze Hill ym Benllech.
Dywedodd llefarydd ar ran y gwesty: "Nid aelod o’r staff yn unig oedd Lucy; roedd hi’n rhan o’n teulu estynedig ac yn cael ei thrysori gennym ni, ein cwsmeriaid a’i chydweithwyr – llawer ohonynt wedi dod yn ffrindiau agos iddi."
"Roedd Lucy yn ofalgar, yn ddoniol, yn glyfar ac yn gwenu’n gyson. Roedd Lucy yn rhagorol wrth ofalu am ein cwsmeriaid, a bydd llawer ohonynt yn gweld ei heisiau yn fawr."
Dywedodd y trefnwyr gŵyl Tonnau, a ddisgrifiwyd fel "parti gardd trofannol": "Yn dilyn y drasiedi hon, ac er mwyn caniatáu i'r gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol wneud eu gwaith angenrheidiol, gwnaethom y penderfyniad i gau gweddill yr ŵyl ac rydym wedi gofyn i bobl adael y safle pan fydd yn ddiogel gwneud hynny."
"Rydym yn cydweithredu'n llawn â'r ymchwiliad sy'n parhau."


Carcharu pedwar dyn am delio cyffuriau
Trydydd croesfan Menai yn "hanfodol" - cyngor
Dyn yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad beic cwad
Carcharu deilwr cocên o Gaergybi
Criwiau'n delio â thân gwyllt Pentrefelin