Bydd cyfres o sesiynau galw heibio yn digwydd yng Ngwynedd fel rhan o ymgynghoriad parhaus ar cyflwyno treth twristiaeth.
Mae'r cyngor sir yn ceisio barn ar gyflwyno ardoll ymwelwyr, a allai gael ei chyflwyno mor gynnar â mis Hydref 2027.
O'r flwyddyn nesaf, bydd deddfwriaeth newydd gan Llywodraeth Cymru yn caniatáu i gynghorau godi £1.30 y pen y noson am aros dros nos yn y rhan fwyaf o lety, gan gynnwys gwestai, a 75c mewn meysydd gwersylla a hosteli.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, byddai cyflwyno'r ffioedd yn cefnogi "economi ymwelwyr fwy cynaliadwy" i'r sir.
Mae cynghorau Ynys Môn a Chonwy hefyd yn cynnal ymgynghoriadau cyhoeddus tebyg.
Cynhelir pedair sesiwn yr wythnos hon yn y lleoliadau canlynol:
- Dydd Mercher 8 Goffennaf: Neuadd Dyfi, Aberdyfi - 10yb-12yp
- Dydd Mercher 8 Gorffennaf: Byw'n Iach Penllyn (Canolfan Hamdden), Y Bala - 2-4yp
- Dydd Gwener 10 Gorffennaf: Neuadd Abersoch - 10yb-12yp
- Dydd Gwener 10 Gorffennaf: Neuadd Dwyfor, Pwllheli - 2-4yp
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "A ninnau dros hanner ffordd drwy'r cyfnod ymgynghori, mae dal digon o amser i bobl ddweud eu dweud a bydd derbyn adborth yn helpu cynghorwyr i wneud penderfyniad deallus am y mater pwysig hwn."
"Mae'r sector dwristiaeth yn rhan bwysig o economi Gwynedd ac yn cael effaith fawr ar ein cymunedau felly mae'n bwysig fod pawb yn cael y cyfle rannu barn."
Mae'r ymgynghoriad yn rhedeg tan ddydd Sul 26 Gorffennaf ar wefan Cyngor Gwynedd gyda chopïau hefyd ar gael o lyfrgelloedd lleol ac o leoliadau Siop Gwynedd yng Nghaernarfon, Pwllheli a Dolgellau.
Mae ymgynghoriad ar wahân gan Gyngor Ynys Môn yn rhedeg tan ddydd Llun 13 Gorffennaf. Mae ar gael ar wefan y cyngor gyda chopïau ar gael o'r ymgynghoriad, a gwybodaeth gefndirol ychwanegol ar gael mewn llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden lleol, Oriel Môn a swyddfeydd y cyngor sir yn Llangefni.


Interniaid newydd yn ymuno â phrosiect Morlais
Gŵyl Arall 2026 yn fwy 'uchelgeisiol'
Cyllid ar gyfer tri phrosiect arfordirol
A5: beiciwr wedi'i anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad
Plant Môn yn dysgu sgiliau diogelwch dŵr