Mae MônFM wedi derbyn tri enwebiad yng Ngwobrau Radio Cymunedol 2026.
Mae'r orsaf leol ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd yn un o dair gorsaf radio cymunedol o Gymru sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni.
Mae sioe brynhawn boblogaidd Zowie a Dai yn y categori ar gyfer Sioe Adloniant y Flwyddyn, tra bod Elfyn Pritchard wedi'i enwebu ar gyfer Gwirfoddolwr y Flwyddyn ac mae'r cyn-gyflwynydd Steffan Huw ar y rhestr fer ar gyfer categori Person Ifanc y Flwyddyn.
Yn ogystal, mae rhaglen arbennig ar etholiadau'r Senedd gan Rwydwaith Radio Cymunedol Cymru (WCRN) wedi'i henwebu ar gyfer gwobr Sylw Etholiadol a Gwleidyddol y Flwyddyn.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni ddydd Sadwrn 24 Hydref yn Birmingham, lle bydd y gwobrau yn dathlu eu dengmlwyddiant.
Dyweddod Kev Bach, Rheolwr Rhaglenni MônFM: "Rwy'n falch o bob un o'n gwirfoddolwyr am y gwaith maen nhw'n ei wneud bob dydd dros ein gorsaf, ac am yr angerdd maen nhw'n ei roi i'r gwaith bob tro."
"Rwy'n arbennig o falch o'n gwirfoddolwyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau radio cenedlaethol mawreddog hyn."
"Mae'n eithaf teimladwy, mewn gwirionedd, bod yr enwebeion hyn yn cael eu cyhoeddi ar yr un diwrnod â'n lansiad ni o Wobrau Cymunedol MônFM, wrth i ni ddathlu ac anrhydeddu arwyr cymunedol ym Môn a Gwynedd."
Mae MonFM wedi ennill nifer o Wobrau Radio Cymunedol dros y blynyddoedd, gan gynnwys y Wobr Aur am ei ddarllediadau byw o Wyl Cefni y llynedd, ac anrhydedd ôl-farwol i'r cyn-gadeirydd Tony Wyn Jones, gan gydnabod ei waith yn y sector radio cymunedol yng Nghymru.
Yn ôl y trefnwyr, mae enwebeion eleni yn arddangos yr amrywiaeth o dalent, creadigrwydd ac ymroddiad sydd i'w cael ledled sector radio cymunedol y DU, yn amrywio o raglennu ac newyddiaduraeth arloesol i ymgysylltu â'r gymuned, hyfforddiant a gwirfoddoli.
Dyweddod Rebecca Steers, cadierydd y gwobrau: "Wrth i ni ddathlu degfed flwyddyn Gwobrau Radio Cymunedol, mae'n gyfle gwych i gydnabod y bobl a'r gorsafoedd sy'n gwneud radio cymunedol yn rym mor bwerus er daioni ledled y DU."
"Mae cael eich enwebu yn gyflawniad sylweddol ac yn adlewyrchu'r ymroddiad, y creadigrwydd a'r angerdd y mae gwirfoddolwyr, cyflwynwyr a thimau yn eu cyfrannu wrth wasanaethu eu cymunedau."
"Rydym yn falch o ddathlu eu llwyddiant ac yn edrych ymlaen at groesawu'r sector at ei gilydd ar gyfer y flwyddyn ben-blwydd arbennig hon."


Ymchwiliadau’n parhau yn dilyn marwolaeth baban
Carcharu dyn am boeri ar swyddogion heddlu
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Ailddechrau hediadau Hawk yn dilyn damwain hyfforddi
Marwolaeth yn Abermaw: rhyddhau dyn heb gamau pellach