Tystiolaeth newydd i amddiffyn bywyd gwyllt morol

Thursday, 30 July 2026 17:05

By Ystafell Newyddion MônFM

CNC

Mae tystiolaeth newydd yn helpu i fwrw golau ar lwybr cliriach tuag at ddiogelu rhai o gynefinoedd morol pwysicaf yng Ngogledd Orllewin Cymru, yn ôl arbenigwyr amgylcheddol.

Mae cymunedau sbyngau yn Afon Menai a Bae Conwy - a riffiau cregyn bylchog oddi ar Benrhyn Llŷn - wedi'u dynodi'n ardaloedd cadwraeth arbennig (ACA).

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mae ymchwil fanwl wedi rhoi dealltwriaeth newydd o’r pwysau sy'n effeithio ar fywyd gwyllt y môr ac wedi nodi camau gweithredu a allai helpu i wella amodau ar gyfer adferiad.

Yn Afon Menai a Bae Conwy, rhoddodd yr ymchwiliad i sbyngau fewnwelediad newydd i'r newidiadau amgylcheddol sy'n effeithio ar gymunedau sbyngau gwarchodedig, a fydd yn werthfawr wrth fonitro a rheoli'r cynefinoedd hyn yn y dyfodol.

Ym Mhen Llŷn a'r Sarnau, amlygodd yr ymchwiliad i’r riff marchfisglod effeithiau cyfunol, sef aflonyddwch ffisegol hanesyddol, amodau amgylcheddol newidiol a phwysau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd, gan nodi blaenoriaethau ar gyfer monitro a rheoli.

Mae astudiaethau hefyd wedi'u cynnal yn Aberdaugleddau, cartref yr unig wely maeri byw y gwyddys amdano yng Nghymru.

Canfu'r astudiaethau nad oes unrhyw un math unigol o bwysau yn egluro'r newidiadau a welir. Yn hytrach, mae cyfuniad o ffactorau'n effeithio ar y cynefinoedd hyn, gan gynnwys llygredd maethynnau, gwaddodiad, aflonyddu ffisegol ar wely'r môr, rhywogaethau goresgynnol a newid hinsawdd.

Er bod y pwysau'n amrywio rhwng safleoedd, mae'r canfyddiadau'n darparu tystiolaeth newydd werthfawr i helpu i dargedu camau cadwraeth a chefnogi adferiad.

Meddai Andrea Winterton, rheolwr gwasanaethau morol CNC: "Rydym wedi gwybod ers peth amser fod y cynefinoedd hyn yn wynebu amrywiaeth o bwysau, ac mae gwaith monitro wedi ein helpu i ddeall sut mae eu cyflwr yn newid."

"Mae'r ymchwiliadau hyn yn mynd gam ymhellach drwy wella ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n sbarduno'r newidiadau hynny a lle gall camau gweithredu gael yr effaith fwyaf."

"Mae'r astudiaethau'n rhan o waith ehangach CNC i wella cyflwr a gwydnwch ardaloedd morol gwarchodedig Cymru a chefnogi camau gweithredu i fynd i'r afael ag argyfyngau natur a’r hinsawdd."

"Drwy nodi’r pwysau sy’n dal y cynefinoedd hyn yn ôl, mae gennym gyfle gwell i gefnogi eu hadferiad a diogelu’r bywyd morol cyfoethog maen nhw’n ei gynnal."

"Maent yn rhan o'r dreftadaeth naturiol sy'n gwneud Cymru'n unigryw, a bydd y canfyddiadau'n ein helpu i weithio gyda phartneriaid i amddiffyn y lleoedd arbennig hyn ac adeiladu eu gwydnwch ar gyfer y dyfodol."

Comisiynwyd yr ymchwiliadau yn dilyn asesiadau diweddaraf CNC o ardaloedd morol gwarchodedig Cymru y llynedd, gan dynnu sylw at nifer o gynefinoedd a rhywogaethau gwarchodedig lle roedd angen ymchwilio ymhellach i gael dealltwriaeth well o’r rhesymau dros y dirywiad yn eu cyflwr.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Saturday Breakfast with Paul Anthony

    7:00am - 10:00am

    Join Paul as he kick-starts the weekend across Anglesey and Gwynedd! He's got great songs and local information to start your morning.

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'