Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Y Fali ar Noson Tân Gwyllt.
Cafodd dynes ei tharo gan gerbyd Range Rover ar Ffordd Llundain tua 2.30yp ddydd Mawrth 5 Tachwedd.
Cafodd ei chludo mewn ambiwlans i Ysbyty Gwynedd ym Mangor gydag anafiadau difrifol.
Mae nifer o dystion wedi dod ymlaen ers y gwrthdrawiad, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, ond mae swyddogion yn adnewyddu eu hapêl.
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â PC Hayes ar 101 neu ewch i wefan Heddlu Gogledd Cymru, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 24000940081.


Carcharu pedwar dyn am delio cyffuriau
Trydydd croesfan Menai yn "hanfodol" - cyngor
Tonnau: agor cwest i farwolaeth dynes ifanc
Dyn yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad beic cwad
Carcharu deilwr cocên o Gaergybi