Ymchwiliad i lofruddiaeth yn Abermaw: arestio dyn

Tuesday, 26 May 2026 15:46

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (Bill Harrison)

Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi dechrau yn dilyn marwolaeth dyn 34 oed yn Abermaw.

Cafodd y gwasanethau brys eu galw toc wedi 3yp prynhawn Llun Gŵyl y Banc yn dilyn addrodiadau bod dyn yn y dŵr ar y traeth.

Cyheoddwyd bod y dyn wedi marw "er gwaethaf ymdrechion y rhai a geisiodd ei achub", yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.

Mae teulu'r dyn a'r crwner lleol i Gogledd Orllewin Cymru wedi cael gwybod.

Mae dyn 24 oed o ardal Birmingham wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac mae'n parhau i fod yn y ddalfa wrth i'r heddlu ymchwilio ymhellach.

Nid yw ditectifs yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r farwolaeth, ond maen nhw'n apelio ar dystion i ddod ymlaen.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Chris Bell: "Mae ymchwiliad i farwolaeth y dyn wedi cael ei lansio ac rwy'n annog unrhyw un a oedd ar draeth Abermaw ac a welodd y digwyddiad i gysylltu â'r heddlu."

"Rwyf hefyd yn apelio ar bawb a oedd ar y traeth rhwng 2yp a 4yp a dynnodd unrhyw luniau a fideos i'w hanfon atom cyn gynted â phosibl."

"Mae gennym ddiddordeb yn yr holl luniau neu fideos a dynnwyd ar unrhyw ran o'r traeth yn ystod y prynhawn. Gallai unrhyw ddelwedd fod yn berthnasol i'n hymchwiliad, a bydd fy nhîm o ymchwilwyr yn eu hadolygu i weld a ydynt o unrhyw werth fel tystiolaeth i'n hymholiadau."

"Gallai eich help ar y mater hwn fod yn hanfodol i ddeall trefn y digwyddiadau a wnaeth arwain at farwolaeth y dyn."

"Hoffwn bwysleisio nad ydym yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â'r digwyddiad hwn a bydd mwy o bresenoldeb heddlu yn yr ardal yn ystod y dyddiau nesaf at ddibenion tawelu meddwl y gymuned. Cydymdeimlwn â theulu'r dyn ar yr adeg anodd hon."

Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu unrhyw luniau neu luniau, ewch i'r dudalen arbennig ar wefan Heddlu Gogledd Cymru neu ffoniwch 101.

Fel arall, cysylltwch â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • 50 Mawr MônFM

    7:00pm - 11:00pm

    Cyfle arall i glywed y siart fawr - 50 o'ch hoff ganeuon Cymraeg chi!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'