Mae'r heddlu'n ymchwilio i ymosodiad honedig yn dilyn gêm ddarbi bêl-droed yn Nyffryn Nantlle.
Yn ôl adroddiadau, cafodd dau o chwaraewyr CPD Nantlle Vale eu ymosod mewn tafarn lleol yn dilyn eu gêm oddi cartref yn erbyn CPD Talysarn Celts nos Fawrth.
Mae'r ddau glwb digwyddiad honedig yn gyhoeddus ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y gêm, a enillodd y tîm cartref 1-0.
Dyweddod llefarydd ar ran CPD Nantlle Vale: "Siomedig iawn oedd gweld bod dau chwaraewr CPD Nantlle Vale wedi cael eu anafu ar ôl y gêm drwy ymosodiad a hynny yn tynnu sylw oddo ar y achlysur, tydio ddim yn dderbynniol i unrhyw chwaraewr droi fyny i gêm i chwarae pêl droed a chael eu hanafu."
"Tydi clwb pêl droed Nantlle Vale ddim yn esgusodi y math yma o ymddygiad."
Mewn datganiad diweddarach, ychwanegodd y clwb: "Hoffwn ddiolch i Pwyllgor CPD Talysarn Celts am gysylltu gyda y clwb heddiw yn dilyn digwyddiad neithiwr, ac am y gefnogaeth i'r chwaraewyr."
"Mae un peth yn glir, ein bod yn sefyll gyda'n gilydd ac nid ydym yn esgusodi unrhyw fath o ymddygiad treisgar gan unrhyw gefnogwr boed yn ystod y gêm neu ar ôl oddi ar y cae."
Dyweddod llefarydd ar ran CPD Talysarn Celts: "Mae Clwb Pêl-droed Talysarn Celts yn ymwybodol o ddigwyddiad mewn tafarn leol yn dilyn ein gêm neithiwr yn erbyn CPD Nantlle Vale. Rydym ar ddeall fod y mater wedi ei gyfeirio ir heddlu."
"Mae’r clwb yn condemnio pob math o drais ac yn trin y mater hwn gyda’r difrifoldeb mwyaf."
"Er na ddigwyddodd y digwyddiad hwn ar dir y clwb, ymwneud ac aelodau y clwb, nac o dan oruchwyliaeth y clwb, rydym yn cydweithio’n llawn a CPD Nantlle Vale â’r awdurdodau perthnasol ac yn cefnogi unrhyw gamau priodol. Nid oes lle i ymddygiad fel hyn yn ein cymdeithas."
"Rydym yn anfon ein cydymdeimlad a’n cefnogaeth lawn ir sawl fu yn destun ir digwyddiad."
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Mi allwn ni gadarnhau ein bod ni’n ymchwilio i ddigwyddiad yn dilyn gêm bêl-droed rhwng Dyffryn Nantlle a Thalysarn yn gynharach yr wythnos hon."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y digwyddiad honedig, cysylltwch â'r heddlu ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu rhif cyfeirnod 26000405964.


Cyfrif terfynol tan Eisteddfod yr Urdd
Bangor: cyhuddo dyn o fyrgleriaeth a herwgipio
Dirwy i berchennog ci am anwybyddu gwaharddiad
Carcharu 'ysglyfaethwr' am gam-drin hanesyddol
Archwiliad arall ar Bont y Borth