Apêl yr ​​heddlu ar ôl lladradau Calan Gaeaf

Tuesday, 3 November 2026 at 09:19

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae ditectifs yn rhybuddio preswylwyr i fod yn wyliadwrus ar ôl dwy fyrgleriaeth yng Ngwynedd ar Nos Galan Gaeaf.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cadw meddwl agored ynghylch a oes cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad brynhawn Sadwrn diwethaf.

Mi riportiwyd ymgais i fwrglera a ddigwyddodd tua 4yp mewn cyfeiriad yng Nghysgod y Coed yn Mhrenteg.

Mae gan swyddogion ddiddordeb mewn siarad efo unigolyn y credir eu bod yn mynd â’u ci am dro ar y pryd, ac a darfodd ar ddau ddyn yn gwisgo balaclafas ac yn teithio mewn car BMW 340.

Os mai chi oedd yn mynd â’ch ci am dro, neu’n adnabod yr unigolyn hwn, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan ddefnyddio’r rhif cyfeirnod 26000893842.

Am 5.25yp ar yr un diwnrod, mi riportiwyd byrgleriaeth ym Morfa Bychan, lle cafodd ffenest ei thorri er mwyn cael mynediad i dŷ.

Mae swyddogion yn apelio ar unrhyw un a welodd ar unrhyw weithgaredd amheus yn ardal Bryn Parc i gysylltu efo’r heddlu gan ddefnyddio’r rhif cyfeirnod 26000893648.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Mid-Week Smooth

    11:00pm - Midnight

    Join Dai Sinclair for an hour of Smooth music to finish the night on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'