Agor cwest i farwolaeth Michael Ward

Wednesday, 4 November 2026 at 13:20

By Ystafell Newyddion MônFM

Llun teulu (Heddlu Gogledd Cymru)

Mae cwest wedi'i agor yn dilyn marwolaeth dyn 53 oed mewn fflat yng Nghaergybi.

Bu farw Michael Ward yn Llys Waitling ar Ffordd Llundain yn oriau mân dydd Sadwrn 17 Hydref.

Mae ei fab, Martin Ward, 33 oed, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.

Mae archwiliad post-mortem wedi canfod bod Mr Ward, wedi dioddef anafiadau i'w ben a'i wddf.

Dywedodd Sarah Riley, y coroner cynorthwyol dros Ogledd-orllewin Cymru, bod gwasanaethau brys wedi cael eu galw i’r fflat yn dilyn adroddiad am ataliad ar y galon.

Datganwyd bod Mr Ward wedi marw yn y fan a'r lle toc wedi 3yb.

Mewn teyrnged yn dilyn marwolaeth Mr Ward, a oedd yn wreiddiol o Wolverhampton, dywedodd ei deulu: "Roedd ein tad yn ddyn teulu cariadus hefo calon fawr. Bydd colled fawr ar ei ôl."

Cafodd yr cwest yng Nghaernarfon ei ohirio tan ddyddiad diweddarach tra bod achos troseddol yn parhau.

Mae Martin Ward wedi'i gadw yn y ddalfa tan wrandawiad ple yn mis Ionawr.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Mid-Week Smooth

    11:00pm - Midnight

    Join Dai Sinclair for an hour of Smooth music to finish the night on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'