Mae dyn a gafodd ei arestio yn dilyn marwolaeth llanc yng Nghaergybi wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad ar Ffordd Morawelon yn dilyn argyfwng meddygol yn ymwneud â dyn 18 oed, yn oriau mân fore Sul.
Cafodd dyn 61 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, ond mae wedi cael ei ryddhau ers hynny.
Dwyeddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Gwnaeth y dyn helpu swyddogion hefo’u hymholiadau, a mae ymchwiliadau i amgylchiadau’r farwolaeth yn parhau."
Mae ditectifs yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan dyfynnu'r rhif cyfeirnod O178536.


Apêl Noson Tân Gwyllt – "dangoswch barch"
Agor cwest i farwolaeth Michael Ward
Cipolwg cyntaf ar 'Y Streic Fawr'
Ceisio barn ar wella teithio llesol
Apêl yr heddlu ar ôl lladradau Calan Gaeaf