Apêl Noson Tân Gwyllt – "dangoswch barch"

Wednesday, 4 November 2026 at 17:55

By Ystafell Newyddion MônFM X @lookoutwales2

Mae nifer y digwyddiadau sy'n cynnwys tân gwyllt a choelcerthi wedi lleihau'n sylweddol, yn ôl pennaeth tân yng Ngogledd Cymru.

Daw hyn wrth i wasanaethau brys yn y rhanbarth ymuno â'i gilydd i atgoffa'r cyhoedd i gadw'n ddiogel cyn Noson Tân Gwyllt.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru (GTAGC) yn dweud bod pobl yn gwrando ar eu hapeliadau i fynychu arddangosfeydd sydd wedi eu trefnu yn hytrach na chynnau eu tân gwyllt eu hunain gartref.

Bydd nifer o arddangosfeydd wedi eu trefnu yn cael eu cynnal ar draws Ynys Môn a Gwynedd ddydd Iau a thrwy gydol y penwythnos.

Ond mae'r awdurdodau'n atgoffa pawb i "ddathlu'n gyfrifol" a "dangos parch" ar un o'r nosweithiau prysuraf o'r flwyddyn i'r gwasanaethau brys.

Dywedodd Paul Kay, pennaeth diogelwch tân yn y Gwasanaeth Tân: "Mae nifer y digwyddiadau ry’n ni’n eu mynychu ac sy'n ymwneud â thân gwyllt a choelcerthi wedi gostwng yn aruthrol gan fod y cyhoedd wedi gwrando ar ein hapêl i fynychu arddangosfeydd sydd wedi eu trefnu yn hytrach na chynnau eu tân gwyllt eu hunain gartref."

"Os ydych chi'n penderfynu cynnau tân gwyllt neu gael coelcerth, byddem yn apelio ar bawb i ddangos parch drwy ddilyn y cyngor."

Parchwch y Côd Tân Gwyllt

  • Cynlluniwch eich arddangosfa tân gwyllt i'w wneud yn ddiogel a phleserus, a sicrhewch ei fod yn gorffen cyn 11yh.
  • Prynwch dân gwyllt sy'n cario'r marc CE, cadwch nhw mewn blwch caeedig a ddefnyddiwch un ar y tro.
  • Darllenwch a dilynwch y cyfarwyddiadau ar bob tân gwyllt gan ddefnyddio tortsh os oes angen.
  • Taniwch y tân gwyllt o hyd braich gyda thapr a sefwch ymhell yn ôl.
  • Cadwch fflamau noeth, gan gynnwys sigaréts, i ffwrdd o dân gwyllt.
  • Peidiwch byth a dychwelyd at dân gwyllt wedi iddo gael ei gynnau.
  • Peidiwch a rhoi tân gwyllt yn eich poced a pheidiwch byth â'u taflu.
  • Cyfeiriwch unrhyw rocedi tân gwyllt ymhell oddi wrth pobl sy’n gwylio.
  • Peidiwch byth a defnyddio paraffîn na phetrol ar goelcerth.
  • Gwnewch yn siŵr fod y tân wedi ei ddiffodd a bod yr ardal o gwmpas yn cael ei wneud yn ddiogel cyn gadael.

Dywedodd Judith Bryce, cyfarwyddwr cynorthwyol gweithrediadau ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: "Mae nifer o'r anafiadau a welwn, yn enwedig llosgiadau, yn gwbl ataladwy a gall dilyn cyngor diogelwch syml wneud yr holl wahaniaeth a helpu i sicrhau bod pawb yn mwynhau'r noson yn ddiogel."

Ychwanegodd: "Bob Noson Tân Gwyllt mae ein criwiau yn ymateb i ystod eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys anafiadau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a thanau anniogel."

"Os yw ein staff yn teimlo dan fygythiad, efallai y byddant yn cael eu gorfodi i dynnu'n ôl o'r lleoliad, gan oedi gofal i'r claf a rhoi eraill mewn perygl."

"Mae unrhyw fath o ymosodiad tuag at weithwyr brys yn annerbyniol a gall gael canlyniadau parhaol i'r rhai yr effeithir arnynt. Gadewch i ni wneud y Noson Tân Gwyllt hon yn gofiadwy am y rhesymau cywir."

"Arhoswch yn ddiogel, gofalwch am ein gilydd, a'n helpu i gadw'r gwasanaethau brys ar gael i'r rhai sydd eu hangen fwyaf."

Ni chewch danio tân gwyllt rhwng 11pm a 7am, heblaw am Noson Tân Gwyllt, pan fo'r terfyn am hanner nos, neu Nos Galan, Diwali a'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, pan fo’r terfyn am 1am.

Dywedodd Prif Arolygydd Siobhan Edwards o Heddlu Gogledd Cymru: "Ry’n ni’ gobeithio eleni, fel sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd, fod pobl yn cymryd agwedd gyfrifol tuag at noson Tân Gwyllt."

"Ry’n ni'n gwybod bod y mwyafrif o bobl yn mwynhau'r amser yma o'r flwyddyn yn synhwyrol a dydyn ni ddim yma i sbwylio eu hwyl - ond yn anffodus mae lleiafrif sydd â'u bryd ar achosi problemau a defnyddio'r cyfnod fel esgus i gyflawni trosedd a gweithredu'n wrthgymdeithasol."

"Ry’n ni am weithio gyda'n cymunedau i sicrhau eu bod yn gallu mwynhau eu hunain yn ddiogel."

"Bydd ein timau, ochr yn ochr â phartneriaid allan ar draws y rhanbarth – gan helpu i addysgu, tawelu meddwl a chadw ein cymunedau'n ddiogel."

Ychwanegodd: "Mae'r galw ar wasanaethau brys yn cynyddu'n sylweddol yn ystod yr adeg hon o'r flwyddyn. Er mwyn ein helpu i gadw ein llinellau’n rydd i'r rhai sydd ein hangen fwyaf, sicrhewch eich bod yn cysylltu â'r asiantaeth fwyaf perthnasol ac yn defnyddio'r dull mwyaf priodol o gysylltu."

Digwyddiadau Noson Tân Gwyllt

Un o brif ddigwyddiadau Noson Tân Gwyllt yn yr ardal fydd y sioe flynyddol yng Nghaernarfon a bydd cyfyngiadau ar waith am yr ail flwyddyn yn olynol, yn dilyn pryderon gan y trefnwyr ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol "difrifol" a "pheryglus".

Bydd Lon Coed Helen, Ffordd yr Aber, Ffordd o Allt y Castell i Pen Deitsh, Tan y Bont a Cei Banc ar gau rhwng 5yp a 8yh nos Iau.

Ym Mangor, bydd Cyngor y Ddinas yn cynnal ei Noson Tân Gwyllt ar y cae chwarae ar Ffordd y Traeth am y tro cyntaf ers 2023 - a bydd Pier y Garth yn aros ar agor yn hwyrach fel man gwylio ychwanegol ar gyfer y tân gwyllt, gyda bwyd a diodydd poeth ar gael hefyd.

Dyma restr lawn o ddigwyddiadau trefnedig ar draws Ynys Môn a Gwynedd yn y dyddiau nesaf.

Nos Iau 5 Tachwedd (Noson Tân Gwyllt)

  • Bangor: Cae Chwarae, Ffordd y Traeth - dechrau am 6yh, arddangosfa am 7yh, mynediad am ddim, wedi'i drefnu gan Gyngor Dinas Bangor
  • Brynsiencyn: Parc Fferm Foel (yn edrych dros arddangosfa Caernarfon) - agor am 4yp, coelcerth am 5yp, arddangosfa at 6.30yh, cerddoriaeth byw gan Charli Lamont, bwyd ar gael
  • Caernarfon: Tafarn yr Anglesey - stondinau bwyd ar agor am 5.30yp, arddangosfa am 6.30yh, mynediad am ddim, wedi'i drefnu gan Gyngor Tref Caernarfon, Y Llewod a Gwyl Fwyd Caernarfon
  • Caergybi: Traeth Penrhos - coelcerth am 6yh, mynediad £5 oedolion / £1 plant, bwyd ar gael, wedi'i drefnu gan Bwrdd Gron Caergybi a'r Cylch; mae'r holl elw yn mynd i elusennau lleol

Nos Wener 6 Tachwedd

  • Amlwch: Cae Madyn - agor am 6yh, coelcerth am 6.30yh, arddangosfa gerddorol am 7.15yh, mynediad £5 oedolion / plant am ddim (dan 16 oed), bwyd ar gael, wedi'i gefnogi gan y Gwasanaeth Tân
  • Criccieth: Bwyty Dylan - agor am 5yh, arddangosfa am 7.30yh, cerddoriaeth fyw gan y Southpaw Acoustic Duo, mynediad am ddim
  • Llangefni: Clwb Rygbi Llangefni, Ffordd Glanwhfa - dechrau 7yh, mynediad £5 neu £20 ar gyfer teulu o bedwar (arian parod yn unig), bar ar agor am 6yh (cerdyn yn unig), bwyd ar gael
  • CPD Talysarn Celts: Gloddfa Glai, Talysarn - agor 5.30yp, mynediad £3.50 oedolyn, £2.50 dan 16 oed, plant dan 3 oed am ddim, bwyd ar gael

Nos Sadwrn 7 Tachwedd

  • Y Bermo: Y Cei - coelcerth am 6.30yh, arddangosfa am 7yh, mynediad am ddim (croeso i roddion), DJ a band Samba byw
  • Biwmares: Ar lan y môr - cerddoriaeth fyw o 4.15yp gyda Band Pres Biwmares, Red Wharf ac The Bassmen, arddangosfa am 7.15yh, mynediad £7.50, parcio ar gael ar The Green o 3yp, wedi'i gefnogi gan y Gwasanaeth Tân
  • Pwllheli: Yr Ynys - 5yp-8yh, adloniant a cherddoriaeth fyw, bwyd a bar ar gael, wedi'i drefnu gan Hwyl Yr Ŵyl Pwllheli

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Mid-Week Smooth

    11:00pm - Midnight

    Join Dai Sinclair for an hour of Smooth music to finish the night on MônFM

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'