Mae trigolion yng Ngwynedd yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar sut i wella teithio gweithredol.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn parhau ynglŷn â sut y gellir gwneud cysylltiadau ar gyfer cerdded, olwyno a beicio yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy hyngyrch i bawb.
Yn ôl cyngor y sir, bydd yr holl sylwadau yn cael ei ystyried wrth ddatblygu a chynllunio gwelliannau yn y dyfodol i'r rhwydwaith teithio llesol, lle bo hynny'n bosibl ac yn ymarferol.
Dyweddod y Cynghorydd Craig ab Iago, aelod y cabinet dros amgylchedd: "Os ydych chi'n cerdded, beicio neu'n defnyddio cadair olwyn i deithio yn lleol, rydym eisiau clywed eich barn am sut gellir gwneud gwelliannau fyddai'n gwneud hi'n haws ac yn fwy hygyrch i bawb."
"Mae'r ymgynghoriad hwn yn agored i drigolion, busnesau a grwpiau cymunedol Gwynedd. Cymerwch y cyfle i ddweud eich dweud er mwyn gwneud cerdded, olwyno a beicio yng Ngwynedd yn fwy diogel, cyfleus a chroesawgar."
Am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan, ewch i wefan Map Data Cymru.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Iau 26 Tachwedd.


Apêl Noson Tân Gwyllt – "dangoswch barch"
Agor cwest i farwolaeth Michael Ward
Cipolwg cyntaf ar 'Y Streic Fawr'
Marwolaeth Caergybi: rhyddhau dyn ar fechnïaeth
Apêl yr heddlu ar ôl lladradau Calan Gaeaf