Gofynnir i'r cyhoedd helpu i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg, fel rhan o gynlluniau newydd i ddiogelu ein treftadaeth ieithyddol.
Mae gwefan newydd yn golygu y gall unrhyw un gofnodi enwau Cymraeg a hanesyddol nad ydynt yn ymddangos ar fapiau ar-lein.
Yr enw yr oedd eich taid yn ei ddefnyddio ar gyfer cae lleol, yr enw Cymraeg ar fryn yn eich ardal, neu'r enw hanesyddol ar eich stryd neu gartref, gallwch helpu i ddiogelu'r enwau hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae'r cyhoedd hefyd yn cael eu hannog i gyfrannu at adnoddau ar-lein fel Wicipedia drwy recordio clipiau sain yn dangos sut y dylid ynganu enwau lleoedd a darparu sillafiadau seinegol, gan helpu pobl i ddeall y straeon cyfoethog y tu ôl i enwau lleol.
Daw hyn yn rhan o gyfres o flaenoriaethau a gyhoeddwyd i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg. Mae'r rhain yn ymateb i ymchwil ddiweddar a ganfu nad yw'r rhan fwyaf o newidiadau i enwau eiddo yn cynnwys newid yn yr iaith.
Fodd bynnag, pan fydd yr iaith yn cael ei newid, mae'r enwau dair gwaith yn fwy tebygol o gael eu newid o'r Saesneg i'r Gymraeg, yn hytrach nag fel arall.
Dywedodd ysgrifennydd y Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae enwau lleoedd yn cyfleu pwy ydym ni ac o ble rydym yn dod."
"Bydd y mesurau newydd hyn yn sicrhau bod ein henwau lleoedd Cymraeg - o fynyddoedd chwedlonol fel Cadair Idris i Felin Wen, hen felin sy'n adrodd hanes cymuned fechan - yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan ei gwneud yn haws i bawb gymryd rhan."
Mae blaenoriaethau eraill yn cynnwys dyroddi canllawiau cliriach i awdurdodau lleol a sefydliadau sy'n gyfrifol am enwau lleoedd, a chomisiynu ymchwil bellach i enwau nodweddion ffisegol yn y dirwedd, fel bryniau a nentydd.
Mae proseict newydd yn adeiladu ar y gwaith a wneir gan brosiectau mapio fel Mapio Cymru a'r Rhestr o Enwau Lleoedd Hanesyddol, yn ogystal â chyrff cyhoeddus fel Parciau Cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog.
Dywedodd Naomi Jones, cyfarwyddwr rheoli tir Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Mae enwau tirweddol yn nodwedd hollbwysig o dreftadaeth ddiwylliannol Eryri."
"Maent yn perthyn i’r tir ac i stori cenedlaethau o drigolion yr ardal ac mae ein cymunedau yn ferw o wybodaeth unigryw am ein enwau lleoedd rhyfeddol."
"Rydym yn hynod falch o weld cyfle i bobl gyfrannu eu gwybodaeth mewn modd fydd yn gwarchod yr enwau ac yn ysbrydoli eraill i’w defnyddio yn eang ar lawr gwlad."


Carcharu pedwar dyn am delio cyffuriau
Trydydd croesfan Menai yn "hanfodol" - cyngor
Tonnau: agor cwest i farwolaeth dynes ifanc
Dyn yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad beic cwad
Carcharu deilwr cocên o Gaergybi