Carcharu dyn am boeri ar swyddogion heddlu

Thursday, 24 September 2026 14:11

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn wedi cael ei garcharu am boeri ar ddau swyddog heddlu ym Mhorthmadog.

Mi geisiodd y ddau gwnstabl arestio Joshua Atkinson ar ddydd Mawrth ar ôl iddo dorri gorchymyn llys.

Mi wnaeth y dyn 31 oed o Dolgellau wrth sefyll gael ei arestio a phoeri ar y swyddogion.

Yn Llys Ynadon Llandudno dydd Mercher, plediodd Atkinson yn euog i ymosod ar y swyddogion wrth gyflawni eu dyletswyddau.

Mi gafodd ei garcharu am 36 wythnos.

Dywedodd yr Arolygydd Ardal Iwan Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae unrhyw gam-drin tuag at weithwyr y gwasanaethau brys yn gwbl annerbyniol ac ni fydd yn cael ei oddef."

"Mae ein swyddogion yn dod i'r gwaith bob dydd er mwyn cadw'r cyhoedd yn ddiogel, ac maen nhw'n haeddu cyflawni eu dyletswyddau heb ofni ymosodiad."

"Byddwn yn parhau i gymryd camau cadarn yn erbyn unrhyw un sy'n bygwth diogelwch ein swyddogion neu'r gymuned ehangach."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Yvonne Gallienne

    1:00pm - 4:00pm

    Three hours of great music with Yvonne on a Friday afternoon.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'