Mae disgyblion ysgol gynradd wedi enwi ddatblygiad tai newydd ym Mangor.
Mae gwaith adeiladu bron wedi'i gwblhau ar ddeg o gartrefi newydd yn ardal Coed Mawr, fel rhan o gyfres o brosiectau tai fforddiadwy yng Ngwynedd.
Cafodd datblygiad Coed Adda ei enwi yn dilyn cystadleuaeth i ddisgyblion Ysgol Y Garnedd, gan gyflwyno dros 50 o awgrymiadau.
Mae'r enw buddugol yn cyfeirio at Afon Adda, sy'n llifo ger y safle.
Mae'r datblygiad yn rhan o gynllun Tŷ Gwynedd ac mae'n cynnwys chwe thŷ tair llofft a phedwar tŷ dwy lofft ar safle hen Ysgol Babanod Coed Mawr, a gaewyd yn 2018.
Dywedodd Carl Evans, dirpwy bennaeth Ysgol Y Garnedd: "Roedd hi'n braf iawn gweld cymaint o frwdfrydedd gan ein disgyblion wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth i enwi'r safle, ac rydym yn falch iawn bod enw'r enillydd wedi cael ei ddewis."
"Cyflwynodd y plant amrywiaeth o syniadau creadigol, gan feddwl yn ofalus am enwau oedd yn adlewyrchu cymeriad yr ardal."
"Hoffwn ddiolch i bob un ohonyn nhw am eu hymdrech a'u hymrwymiad, a llongyfarch yr enillydd ar ei lwyddiant. Roedd hi'n fraint cael bod yn rhan o'r achlysur efo Cyngor Gwynedd a gweld y plant yn rhan o gyhoeddi'r enw swyddogol ar y safle."
Mae Cyngor Gwynedd yn disgwyl i'r cartrefi Coed Adda fod yn barod erbyn mis Hydref - gyda gwaith ar y gweil ar datblygiad Tŷ Gwynedd arall yn y ddinas, ynghyd â chynlluniau pellach ym Morfa Nefyn a Llanystumdwy.
Ers lansio'r cynllun yn 2024, mae datblygiad wedi'i gwblhau yn Llanberis, gyda'r nod yn y pen draw o ddarparu 90 o gartrefi ar draws Gwynedd.
Mae Cyngor Gwynedd bellach yn gweinyddu'r cynllun yn uniongyrchol fel rhan o'i gynllun gweithredu tai, sy'n anelu at sicrhau bod trigolion lleol yn gallu cael mynediad at gartrefi fforddiadwy o safon yn eu cymunedau.
Ychwanegodd y Cynghorydd Paul Rowlinson, aelod y cabinet dros tai ac eiddo: "Diolch i ddisgyblion Ysgol y Garnedd, mae gan y datblygiad Tŷ Gwynedd yma bellach enw sy'n adlewyrchu'r ardal – Coed Adda."
"Cafwyd dros 50 o syniadau ganddyn nhw, ac rydw i wir yn gwerthfawrogi'r amser a'r ymdrech maen nhw wedi'u rhoi i feddwl am enw. Dim tasg fach oedd enwi stad newydd o dai, mae'r enw yma am fod gyda ni am amser hir, ar fapiau ac ar arwyddion stryd."
"Mae'r disgyblion wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i hanes y datblygiad yma. Ac wrth gwrs, tu ôl i'r enw mae deg tŷ newydd i bobl leol. Mae creu mwy o gartrefi fforddiadwy, o safon, yn rhoi cyfle i bobl fyw yn eu cymunedau eu hunain."
"Mae'r gwaith ar y safle bron wedi'i gwblhau erbyn hyn, felly ni fydd yn hir cyn y bydd pobl yn ymgartrefu yng Nghoed Adda. Gobeithio y bydd y plant yn gallu edrych yn ôl a bod yn falch eu bod nhw wedi chwarae rhan yn hanes y datblygiad cyffrous hwn."


Mesurau newydd i hybu ailgylchu ym Môn
Ymestyn TaithCymru i Gaergybi
Dim treth twristiaeth ym Môn - am y tro
Carcharu dyn am boeri ar swyddogion heddlu
Carcharu pedoffil am gam-drin hanesyddol