Ymestyn TaithCymru i Gaergybi

Friday, 25 September 2026 11:04

By Ystafell Newyddion MônFM

TrC

Bydd gwasanaeth coets newydd sy'n cysylltu gogledd a de-orllewin Cymru yn cael ei ymestyn i gynnwys Caergybi.

Bydd TaithCymru, sy’n lansio fis nesaf, yn rhedeg y rhan fwyaf o’i naw taith ddwyffordd bob dydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin.

Ond bydd un daith hwyr y nos bob dydd yn cael ei hymestyn  y tu hwnt i Fangor i wasanaethu gorsaf reilffordd a phorthladd Caergybi.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd yn gwella cysylltiadau â gwasanaethau rheilffordd a fferi i gwsmeriaid sy'n teithio i ac o Ynys Môn ac Iwerddon.

Bydd gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru (TrC), sy’n lansio ddydd Sul 25 Hydref, yn galw yng Nghaernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth ac Aberaeron.

Mae'r gweithredwyr Edwards Coaches a Llew Jones wedi dechrau recriwtio gyrwyr ar gyfer y gwasanaeth, a fydd yn lleihau amseroedd teithio o fwy nag awr..

Dyweddod Lee Robinson, cyfarwyddwr trafnidiaeth ranbarthol TrC: "Mae'r penodiad hwn yn gam pwysig tuag at roi ffordd newydd i gwsmeriaid deithio ar draws Cymru."

"Bydd TaithCymru yn cynnig cysylltiad uniongyrchol, cyfforddus a chyfleus rhwng gogledd a de-orllewin Cymru, gan leihau amseroedd teithio hyd at awr a gwneud hi'n haws teithio at ddibenion gwaith, addysg, gofal iechyd a hamdden neu i ymweld â theulu a ffrindiau."

"Bydd yr estyniad dyddiol i Gaergybi yn hwyr y nos hefyd yn cryfhau cysylltiadau ag Ynys Môn, Iwerddon a’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ehangach."

"Mae Edwards Coaches a Llew Jones yn dod â phrofiad gwerthfawr a gwybodaeth leol ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw i ddarparu gwasanaeth y gall cwsmeriaid ddibynnu arno."

Cafodd Llywodraeth Cymru eu lansio gwasanaeth TaithCymru fis diwethaf fel rhan o ymrwymiad 100 diwrnod.

Mae dros £2 filiwn yn cael ei ddyrannu ar gyfer blwyddyn gyntaf gweithrediadau Taith Cymru, gan gynnwys prynu wyth coets a system archebu ar-lein. Bydd pob taith yn para rhwng 4 awr 45 munud a phum awr.

Dywedodd Jessica Thomas o Edwards Coaches: “Rydym yn falch o gael ein dewis fel y prif weithredwr ar gyfer TaithCymru."

"Mae hon yn wasanaeth newydd cyffrous a fydd yn gwneud teithiau ar draws Cymru yn gynt ac yn symlach, ac rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Llew Jones i'w wireddu."

"Rydym bellach yn recriwtio gyrwyr i ymuno â’n tîm a’n helpu i ddarparu’r gwasanaeth cyfeillgar a dibynadwy y mae ein cwsmeriaid yn ei ddisgwyl."

Ychwanegodd Steve Jones o Llew Jones: “Bydd y gwasanaeth yn creu cysylltiadau gwell i'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ac yn agor opsiynau teithio mwy cynaliadwy."

"Rydym hefyd yn chwilio am yrwyr i ymuno â ni a chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno'r cysylltiad newydd pwysig hwn."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Yvonne Gallienne

    1:00pm - 4:00pm

    Three hours of great music with Yvonne on a Friday afternoon.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'