Ni fydd Ynys Môn yn cyflwyno treth twristiaeth am y tro, mae arweinwyr y cyngor sir wedi cadarnhau.
Mae cynghorwyr wedi gwrthod cynigion ar gyfer ardoll ymwelwyr ar gyfer pobl sy'n aros ar yr Ynys dros nos.
Dyma'r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i wrthod y dreth ddadleuol, sydd i'w gyflwyno yng Nghaerdydd fis Ebrill nesaf, ond mae Cyngor Môn yn dweud y bydd yn monitro sut mae'r mesur yn cael ei gyflwyno mewn rhannau eraill o Gymru.
Yn y cyfamser, mae penderfyniad ar gyflwyno ardoll debyg yng Ngwynedd wedi'i ohirio yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.
Cafwyd mwy na 2,000 o ymatebion i ymgynghoriad ar Ynys Môn, gan gynnwys trigolion lleol, busnesau, rhanddeiliaid twristiaeth a chynrychiolwyr cymunedol.
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion yn erbyn y dreth, gan dynnu sylw at bryderon am gostau uwch i ymwelwyr, elfen gystadleuol yr ynys fel cyrchfan a baich weinyddol ychwanegol ar ddarparwyr llety.
Mae'r diwydiant twristiaeth ar Ynys Môn yn cynhyrchu tua £360 miliwn y flwyddyn i'r economi leol ac yn cefnogi dros 3,500 o swyddi mewn busnesau sy'n gysylltiedig ag ymwelwyr.
Mae deddfwriaeth yng Nghymru, a gyflwynwyd ym mis Medi 2025, yn rhoi'r dewis i gynghorau gyflwyno ardoll ar gyfer arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr - £1.30 y noson mewn gwestai ac 75c y noson mewn meysydd gwersylla a hosteli - ond nid yw'n orfodol.
Cafodd yr argymhelliad gan swyddogion y cyngor i beidio â mabwysiadu'r ardoll ymwelwyr ei gefnogi gan y pwyllgor gwaith ddydd Mawrth.
Dyweddod arweinydd Cyngor Môn, Gary Pritchard: "Mae twristiaeth yn hynod bwysig i Ynys Môn, yn cefnogi swyddi, busnesau a chymunedau ledled yr Ynys. Tra'n cydnabod y bwriad tu ôl i'r ardoll, mae'r dystiolaeth yn dangos nad dyma'r amser cywir i'w gyflwyno ar Ynys Môn."
"Rydym yn gyson yn hyrwyddo busnesau bach a chanolig Ynys Môn fel asgwrn cefn ein heconomi."
"Mae hyn yr un mor wir am y sector twristiaeth. Fodd bynnag, mae'r sector twristiaeth yn parhau i wynebu nifer o heriau a llawer o ansicrwydd ac mae'n bwysig ein bod yn ystyried yn ofalus unrhyw fesurau a allai effeithio ar niferoedd ymwelwyr, hyder busnesau neu'r gystadleuaeth i fusnesau lleol."
"Mae'r penderfyniad yn adlewyrchu ystyriaeth gytbwys o'r dystiolaeth sydd ar gael a'r safbwyntiau a rannwyd drwy gydol y broses ymgynghori."
Mae asesias effaith economaidd, a drafodwyd gan gynghorwyr ddydd Iau, hefyd yn canolbwyntio ansicrwydd am yr effeithiau lleol posibl y byddai ardoll ymwelwyr yn ei gael, yn cynnwys effeithiau posibl ar alw ymwelwyr, refeniw busnesau a chyflogaeth o fewn rhannau o'r sector twristiaeth.
Nododd hefyd y gallai'r effeithiau amrywio yn dibynnu ar faint o fusnesau sy'n ymateb, yn enwedig os nad yw mannau cyfagos yn cyflwyno costau tebyg.
Cefnogodd yr cynghorwyr hefyd argymhelliad y dylai prif weithredwr y cyngor, Dylan J. Williams, ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn galw am adolygiad o'r ddeddfwriaeth bresennol er mwyn mynd i'r afael â'r materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori ddiweddar ar yr ardoll ymwelwyr.
Ond er gwaethaf y penderfyniad, bydd Cyngor Môn yn parhau i fonitro gweithrediad ardollau ymwelwyr mewn rhannau eraill o Gymru, ynghyd ag unrhyw newidiadau i'r ddeddfwriaeth, polisi neu amodau economaidd a allai effeithio ar y sector twristiaeth.
Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Roberts, sy'n deilio y portffolio twristiaeth: "Mae'r sector twristiaeth yn wynebu cyfnod economaidd heriol ac mae'n bwysig bod unrhyw newidiadau yn cael eu hystyried yn ofalus ac yng nghyd-destun y dystiolaeth sydd ar gael."
"Amlygodd yr asesiad effaith economaidd a'r ymatebion i'r ymgynghoriad faterion a oedd angen eu hystyried yn ofalus ac mae'r canfyddiadau hynny wedi cynorthwyo'r penderfyniad heddiw. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad ac a rannodd eu barn."
"Mae Ynys Môn yn parhau i fod yn un o brif atyniadau Cymru ar gyfer ymwelwyr. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar weithio â'r sector a'n partneriaid er mwyn cefnogi cynnydd cynaliadwy mewn twristiaeth, cryfhau cymunedau lleol a sicrhau bod yr ynys yn parhau yn lle deniadol a chystadleuol ar gyfer denu ymwelwyr."

Yn y cyfamser, mae ymgynghoriad cyhoeddus yng Ngwynedd ynghylch cyflwyno ardoll ymwelwyr wedi derbyn bron i 7,000 o ymatebion.
Mae'r ymateb yn awgrymu rhaniad ymhlith trigolion lleol, ond mae busnesau ac ymwelwyr yn gwrthwynebu'r ardoll yn gryf.
Dywedodd Cyngor Gwynedd fod cynghorwyr wedi derbyn argymhelliad i ohirio penderfyniad terfynol nes bydd y gwaith o "ddadansoddi, ystyried ac ymateb i ganfyddiadau'r ymgynghoriad" wedi'i gwblhau.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor: "Daw hyn yn dilyn proses ymgynghori 11 wythnos a roddodd gyfle i drigolion, busnesau, sefydliadau ac ymwelwyr gael rhagor o wybodaeth am y mater a mynegi eu barn drwy lenwi holiadur."
"Mae'r amserlen ar gyfer gwneud penderfyniad wedi'i hymestyn oherwydd cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys: ymestyn y cyfnod ymgynghori o wyth i 11 wythnos; nifer o ymatebion oedd yn sylweddol uwch na'r disgwyl; a'r angen i ystyried yn llawn y materion a godwyd yn ystod y broses."


Mesurau newydd i hybu ailgylchu ym Môn
Ysgol yn enwi datblygiad tai newydd ym Mangor
Ymestyn TaithCymru i Gaergybi
Carcharu dyn am boeri ar swyddogion heddlu
Carcharu pedoffil am gam-drin hanesyddol