Carcharu pedoffil am gam-drin hanesyddol

Thursday, 24 September 2026 12:28

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae pedoffil o Fangor wedi cael ei garcharu am bymtheg mlynedd am gam-drin rhyw hanesyddol yn erbyn plentyn.

Cafwyd Timothy Jones yn euog o ymosod drwy dreiddiad, ymosod drwy gyffwrdd a chymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol efo geneth.

Yn Llys y Goron Caernarfon, cafodd y dyn 49 oed ei ddedfrydu hefyd i flwyddyn ar drwydded estynedig, yn dilyn ei gyfnod yn y carchar.

Mi dderbyniodd hefyd orchymyn atal niwed rhywiol sy'n para 25 mlynedd, ac mae'n rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhywiol am gyfnod amhenodol.

Dywedodd Detectif Rhingyll Geraint Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Mi fydd gweithrediadau ffiaidd Jones yn effeithio ar y dioddefwr am weddill ei hoes."

"Dwi'n gobeithio y bydd y ddedfryd hon o'r diwedd yn rhoi rhyw fath o derfyn boddhaol iddi, a'i chaniatáu i symud ymlaen efo'i bywyd."

"Mi fyddwn yn ymchwilio'n ddyfal bob amser wrth ymchwilio'r rhai sy'n ceisio gwneud niwed i aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas. Mi anogir unrhyw un sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol i ddod atom ni, gyda'r hyder y byddwn ni'n gwrando ac yn eu cefnogi."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Rheinallt Davies

    4:00pm - 7:00pm

    Ymunwch â Rheinallt am gymysgedd o gerddoriaeth Gymraeg a Saesneg o bob degawd ar MônFM. Wel, dim pob un... dwi'm yn gweld o'n chwarae stwff o'r 1840au!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'