Mae cynghorwyr wedi cytuno ar fesurau newydd i hybu cyfraddau ailgylchu ar Ynys Môn.
Bydd casgliadau biniau du yn parhau bob tair wythnos – ond bydd bagiau du llai yn y dyfodol – wrth i Gyngor Môn geisio cyrraedd targedau cenedlaethol Llywodraeth Cymru.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus, a ddenodd fwy na 4,000 o ymatebion, wedi canfod bod 80% yn gwrthwynebu lleihau amlder casgliadau biniau du i bob pedair wythnos.
Mae'r newidiadau a gymeradwywyd yn cynnwys:
- Darparu cynhwysydd ailgylchu ychwanegol i gartrefi, os ydynt yn dymuno, ar gyfer ailgylchu deunyddiau ychwanegol.
- Casglu papur a chardbord gyda'i gilydd er mwyn symleiddio'r system troli ailgylchu.
- Lleihau capasiti gwastraff gweddilliol trwy gyflwyno biniau du llai yn y dyfodol.
Ond cyn rhoi newidiadau ar waith bydd angen buddsoddi'n sylweddol mewn isadeiledd, cymeradwyo cyllid, cynnal gweithgareddau caffael a llunio cynlluniau manwl. Oherwydd hyn, nid oes disgwyl newidiadau sylweddol cyn 2029.
Dywedodd y Cynghorydd Ieuan Williams, sy'n dal y portffolio gwastraff: "Roedd y neges gan drigolion yn glir. Mae pobl yn dymuno gweld cyfraddau ailgylchu'n gwella ond nid ydynt yn cefnogi symud i gasgliadau bin du bob pedair wythnos."
"Mae'r argymhellion a gymeradwywyd gan y cyngor yn adlewyrchu'r adborth hwnnw...rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â newid hinsawdd a gweithio tuag at ennill statws sero net carbon, yn ogystal â chynorthwyo ein cymunedau i leihau allyriadau carbon a'u heffaith ar yr amgylchedd."
"Rydym yn cydnabod y bydd rhaid i rai teuluoedd addasu yn sgil y newidiadau hyn. Fodd bynnag, ni fydd unrhyw newidiadau'n cael eu cyflwyno cyn 2029, felly mae amser gennym i weithio hefo trigolion, codi ymwybyddiaeth a darparu gwybodaeth eglur ynglŷn ag oblygiadau ymarferol y newidiadau."
"Trwy barhau i gyfathrebu, addysgu a chefnogi rydym am helpu drigolion i ailgylchu mwy ac adeiladu ar y cynnydd ardderchog sy'n cael ei wneud yn barod ledled yr ynys."
"Trwy weithio gyda'n gilydd, gallwn gyrraedd targed ailgylchu 70% Llywodraeth Cymru a gwarchod ein hamgylchedd a chenedlaethau'r dyfodol."
Yn ôl Cyngor Ynys Môn, gallai peidio â chyrraedd y targed cenedlaethol o 70% llai o gyfleoedd i dderbyn buddsoddiad mewn isadeiledd ailgylchu gan Lywodraeth Cymru.
Mae cynlluniau i gyrraedd y targed yn cynnwys ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth i wella dealltwriaeth ynglŷn ag ailgylchu ac ailddefnyddio ymhlith trigolion yr ynys, yn ogystal ag edrych ar archwilio cyfleoedd i gasglu deunyddiau ailgylchu ychwanegol yn y dyfodol.
Ychwanegodd Steffan Owen, prif swyddog rheoli gwastraff y cyngor: "Roedd yr ymgynghoriad yn dangos bod nifer o drigolion yn dymuno cael mwy o gyfleoedd i ailgylchu ac mae dod o hyd i rywle i gadw deunyddiau ailgylchu yn gallu bod yn heriol weithiau."
"Dyluniwyd yr argymhellion a gymeradwywyd i ymateb i'r adborth a dderbyniwyd trwy ddarparu cynwysyddion ailgylchu ychwanegol, symleiddio'r system ailgylchu a chynorthwyo preswylwyr i ailgylchu mwy o'r deunyddiau sy'n cael eu rhoi yn y bin du ar hyn o bryd."
"Mae'n bwysig pwysleisio na fydd unrhyw newidiadau'n digwydd ar unwaith a'r bwriad yw eu rhoi ar waith yn 2029. Byddwn yn parhau i rannu gwybodaeth ac ymgysylltu â phreswylwyr wrth i'r prosiect ddatblygu."


Ysgol yn enwi datblygiad tai newydd ym Mangor
Ymestyn TaithCymru i Gaergybi
Dim treth twristiaeth ym Môn - am y tro
Carcharu dyn am boeri ar swyddogion heddlu
Carcharu pedoffil am gam-drin hanesyddol