Mae dyn o Flaenau Ffestiniog wedi ei garcharu am 19 mlynedd ar ôl cam-drin plentyn yn rhywiol.
Cafwyd David Morris yn euog gan reithgor o dri chyhuddiad o ymosodiad rhywiol, pum cyhuddiad o foyeuriaeth ac un cyhuddiad o greu delweddau anweddus o blentyn.
Ni ddywedodd y dioddefwr wrth unrhyw un am yr hyn oedd Morris yn ei wneud i ddechrau oherwydd ei fod yn ei hargyhoeddi hi na fyddai neb yn ei chredu hi, gan gynnwys ei mam ei hun.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug, cafodd Morris, 41 oed, ei garcharu am 15 mlynedd hefo cyfnod estynedig o bedair blynedd i'w wasanaethu ar drwydded.
Cafodd hefyd ei wahardd rhag cysylltu â'i ddioddefwr o dan orchymyn atal am oes.
Dyweddod Ditectif Rhingyll Gemma Smith o Heddlu Gogledd Cymru: "Heb os, bydd cam-drin erchyll Morris yn cael effaith gydol oes ar y dioddefwr."
"Dwi'n canmol dewrder y dioddefwr wrth ddod o hyd i'r nerth i siarad allan a dwi'n gobeithio y bydd y canlyniad hwn yn caniatáu iddi hi symud ymlaen gan wybod na all o niweidio unrhyw un eto."
"Fy neges i unrhyw un sydd wedi profi cam-drin rhywiol, ni waeth pryd, ydy chwilio am help. 'Da ni yma i wrando a byddwn ni'n ymchwilio'n llawn i unrhyw adroddiadau 'da ni'n eu derbyn."


Mesurau newydd i hybu ailgylchu ym Môn
Ysgol yn enwi datblygiad tai newydd ym Mangor
Ymestyn TaithCymru i Gaergybi
Dim treth twristiaeth ym Môn - am y tro
Carcharu dyn am boeri ar swyddogion heddlu