Mae gwaith wedi dechrau ar yr orsaf bŵer niwclear newydd yn Wylfa, yn ôl Llywodraeth y DU.
Mae cwmni Rolls-Royce wedi llofnodi contractau ffurfiol gyda Great British Energy (GBE-N) i greu tri adweithydd niwclear bach newydd (SMR) ar safle'r hen orsaf bŵer, sy'n cael ei ddadgomisiynu.
Bydd y prosiect adeiladu yn creu cymaint â 8,000 o swyddi, gan gynnwys 3,000 yn lleol.
Ym mis Tachwedd diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth y DU mai Wylfa fyddai safle'r adweithydd niwclear bach cyntaf ym Mhrydain.
Yn ôl, mae'r contract gyda GBE-N mewn dau gam - gan ddechrau gyda gwaith dylunio a pharatoi ac archebu offer o'r gadwyn gyflenwi.
Dyweddod Turfan Erginbilgic, prif weithredwr Rolls-Royce: "Mae hon yn garreg filltir hollbwysig i Rolls-Royce SMR, i Rolls-Royce ac i'r DU wrth i'r Llywodraeth geisio gwireddu ei huchelgais o 'oes aur' ar gyfer ynni niwclear newydd."
"Mae’n bleidlais o hyder yn ein galluoedd niwclear unigryw ac yn dystiolaeth bellach bod y dewisiadau strategol rydyn ni wedi’u gwneud wrth drawsnewid Rolls-Royce yn dwyn ffrwyth."
"Mae hefyd yn rhoi sicrwydd cytundebol hollbwysig yn ein marchnad ddomestig, a fydd yn agor y drws i ddefnyddio adweithyddion Rolls-Royce SMR yn fyd-eang."
Ychwanegodd Simon Reddy, prif weithredwr GBE-N: "Mae’r cytundeb hwn yn foment nodedig i’r diwydiant niwclear. Gan weithio gyda Rolls-Royce SMR, rydym yn dod â buddsoddiad hirdymor sylweddol i gadwyn gyflenwi ddiwydiannol y DU."
"Mae cefnogi sgiliau, arloesedd a thyfu ein gallu diwydiannol yn hanfodol i’r bartneriaeth hon, a bydd yn sicrhau bod y DU mewn sefyllfa dda i ddarparu’r genhedlaeth nesaf o seilwaith niwclear."

Mae Cymdeithas y Diwydiant Niwclear wedi croesawu’r cyhoeddiad fel "gam hanesyddol ar gyfer ynni glân, twf diwydiannol a swyddi yng Nghymru."
Dyweddod Tom Greatrex, prif weithredwr: "Mae’n nodi dechrau cyfnod newydd sylweddol a chyffrous i’r prosiect ac i bobl Ynys Môn."
"Mae’n galluogi dechrau gwaith ar brosiect a fydd yn creu miloedd o swyddi ac yn denu buddsoddiad sylweddol yn lleol ac ar draws Prydain, tra’n helpu i sicrhau cyflenwad hirdymor y DU o ynni dibynadwy, carbon isel."
"Mae Wylfa yn safle arbennig iawn gyda chryfderau unigryw, ac mae’r sector yn barod i helpu i wneud fflyd SMR gyntaf y wlad yn llwyddiant, gan roi Prydain ar flaen y gad o ran datblygu niwclear newydd."
Bydd y tri adweithydd bach yn Wylfa yn cynhyrchu digon o drydan i bweru tua thair miliwn o gartrefi am fwy na 60 mlynedd.
Mae'r cyngor sir wedi croesawu'r cyhoeddiad fel "cam pellach ymlaen" ar gyfer y prosiect.
Dyweddod Christian Branch, pennaeth datblygu economaidd y cyngor: "Fel y gymuned sy'n cynnal y datblygiad, mae Ynys Môn yn benderfynol o barhau'n rhan annatod o'r trafodaethau a'r broses o wneud penderfyniadau wrth i'r prosiect pwysig hwn fynd rhagddo."
"Mae'r cyhoeddiad hwn yn atgyfnerthu'r potensial ar gyfer manteision economaidd, cymdeithasol a sgiliau sylweddol."
"Ein blaenoriaeth ni yw sicrhau bod y cyfleoedd hyn yn cael eu manteisio i'r eithaf er budd Ynys Môn – drwy swyddi lleol o ansawdd uchel, llwybrau sgiliau a hyfforddiant clir i bobl leol, a chyfranogiad ystyrlon gan fusnesau lleol a Chymru gyfan yn y gadwyn gyflenwi o'r cychwyn cyntaf."
"Byddwn hefyd yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru yn hyn o beth. Rhaid i'r manteision hyn gael eu hymgorffori yn y camau cynharaf o'r broses o ddylunio, cynllunio a chyflawni."
"Er ein bod yn cydnabod y cyfleoedd sy'n cael eu cyflwyno, rydym hefyd yn ymwybodol bod angen rheoli'n ofalus yr effeithiau posib ar gymunedau, seilwaith a'r amgylchedd."
"Rhaid i drigolion lleol, yn enwedig yng ngogledd Ynys Môn, barhau'n ganolog i bob ystyriaeth wrth i'r prosiect symud drwy'r camau dylunio, cynllunio, adeiladu a gweithredu."
Ychwanegodd: "Rydym yn edrych ymlaen at barhau â'n partneriaeth adeiladol gyda Great British Energy – Nuclear, gan weithio ar y cyd i sicrhau canlyniadau parhaol a chadarnhaol sy'n cefnogi ffyniant cynaliadwy i Ynys Môn a chenedlaethau'r dyfodol."


Chwilio am wirfoddolwyr Eisteddfod yr Urdd
Senedd 2026: annog pleidleiswyr i gofrestru
Cymeradwyo Ysgol Uwchradd Caergybi newydd
Cyhuddo dynes o fyrgleriaeth ym Miwmares
Agor cwest i farwolaeth gyrrwr ifanc