Bydd isetholiad ar gyfer sedd wag yn ward Bro'r Llynnoedd ar Gyngor Ynys Môn ar ddiwedd y mis.
Mae pedwar ymgeisydd yn sefyll yn yr etholiad ddydd Iau 30 Gorffennaf, sy'n digwydd yn dilyn marwolaeth sydyn Ken Taylor, a gynrychiolodd Plaid Cymru, ym mis Mai.
Caeodd yr enwebiadau brynhawn Gwener a dyma'r ymgeiswyr:
- Nick Bounds - Plaid Werdd Cymru
- Margaret Fredericka John - Ceidwadwyr Cymreig
- Richard John Jones - Reform UK Cymru
- Jon Paul Taylor - Plaid Cymru
Bydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor ar ddiwrnod yr isetholiad rhwng 7yb a 10yh a disgwylir y canlyniad yn fuan wedyn.


Gaerwen: cyhuddo dyn o ddelio cyffuriau
Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr