Mae arweinwyr Cyngor Môn wedi galw am 'weithredu brys' i ddarparu trydedd groesfan dros y Fenai.
Mae adroddiad newydd yn dadlau nad yw'r ddwy groesfan bresennol - Pont Britannia a Phont y Borth - "yn addas bellach ar gyfer gofynion modern".
Mae Pont y Borth, a oedd yn nodi ei phen-blwydd yn 200 oed eleni, wedi bod ar gau sawl gwaith yn ystod gwaith cynnal a chadw parhaus - gyda cherbydau dros bwysau yn torri cyfyngiadau dair gwaith yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn ddiweddar, gan achosi aflonyddwch difrifol ar draffig.
Dywedodd y cyngor fod cymunedau lleol a thrigolion "wedi cael ei siomi'n rhy hir gan gysylltiadau trafnidiaeth annibynadwy".
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn ystyried opsiynau manwl ar gyfer trydydd croesfan.
Mae'r adroddiad a gomisiynwyd gan y cyngor yn dweud bod cau dro ar ôl tro a diffyg gwydnwch yr isadeiledd yn tarfu ar fywyd bob dydd preswylwyr ac yn tanseilio hyder yng Ngogledd Orllewin Cymru.
Dywedodd Dylan J Williams, prif weithredwr Cyngor Môn: "Mae diffyg gwydnwch yr isadeiledd hwn sy'n heneiddio yn amlwg. Mae'r pontydd yn cau'n fwyfwy aml ac mae hynny'n tarfu ar ein bywyd bob dydd."
"Mae cau'r pontydd yn ddigwyddiad rheolaidd erbyn hyn, fel y gwelsom yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym mis Mai, un o'r digwyddiadau mwyaf yng nghalendr Cymru, a chaewyd y bont unwaith eto yn gynharach y mis yma."
"Mae Ynys Môn yn wynebu trobwynt, ond mae ein potensial yn cael ei gyfyngu gan rwydwaith trafnidiaeth sydd yn anaddas ar gyfer yr 21ain ganrif."
"Ni allwn barhau i ddibynnu ar isadeiledd sy'n heneiddio ac sy'n methu â darparu ar gyfer ein preswylwyr, ein busnesau a'n hymwelwyr. Mae trydedd groesfan yn hanfodol – ac mae'n rhaid ei darparu ar frys."
Mae'n ychwanegu y byddai peidio â gweithredu yn peryglu prosiectau allweddol fel Porthladd Rhydd Ynys Môn, gorsaf bŵer newydd Gwyndod yn Wylfa a dyfodol porthladd Caergybi yn ogystal â chynyddu'r pwysau ar gymunedau, gwasanaethau cyhoeddus a'r Gymraeg.
Mae'r cyngor hefyd yn ceisio cael cyfarfod brys â chynrychiolwyr o lywodraethau’r DU a Chymru i drafod y ffordd ymlaen a cheisio sicrwydd ynglŷn ag adnoddau a "chynnydd gwirioneddol".
Ychwanegodd arweinydd y cynghorydd, Gary Pritchard: "Tegwch, cyfleoedd a dyfodol ein cymunedau sydd wrth wraidd hyn. Am lawer rhy hir mae Ynys Môn wedi gorfod dibynnu ar isadeiledd sydd ddim yn gallu diwallu gofynion modern."
"Pob tro mae un o'r pontydd yn cau mae'n cael effaith ar fywyd bob dydd ein trigolion, eu gallu i gyrraedd y gwaith, derbyn gofal iechyd, mynd i'r ysgol a rhedeg eu busnesau."
"Oni chymerir camau pendant, rydym yn wynebu risg gwirioneddol o ddirywiad economaidd parhaus a cholli cyfleoedd - yn enwedig mewn cyfnod lle gallai buddsoddiad trwy sawl prosiect economaidd sylweddol a'n cynlluniau twf ehangach drawsnewid yr ynys."
"Nid rhywbeth dymunol i'w gael yw trydedd groesfan; mae'n isadeiledd hanfodol. Gyda'r buddsoddiad cywir a gweithredu ar frys, gallwn ddatgloi swyddi, cryfhau ein heconomi a sicrhau fod ein cymunedau wedi'u cysylltu, yn wydn ac yn gallu ffynnu ymhell i'r dyfodol."
Ar ôl cael ei chymeradwyo'r gan y pwyllgor gwaith heddiw, bydd yr adroddiad nawr yn cael ei gyflwyno i ysgrifennydd gwadol Cymru newydd, Stephen Kinnock - a gymerodd le Jo Stevens ddydd Llun - ac i weinidog menter Llywodraeth Cymru, Adam Price, a'r dirprwy weinidog trafnidiaeth, Mark Hooper.
Y mis diwethaf, dywedodd Mr Hooper wrth y Senedd: "Rwy'n cydnabod yr aflonyddwch y mae'r cauiadau hyn wedi'i achosi i gymunedau ledled Ynys Môn a phawb sy'n teithio yng ngogledd y wlad. Mae hyn, yn ddealladwy, wedi arwain at rwystredigaeth ddofn a dicter cynyddol ymhlith y rhai yr effeithiwyd arnynt."
Ychawnegodd: "Gan edrych ar y tymor hwy, byddwn nawr yn dechrau edrych ar opsiynau manwl ar gyfer trydydd croesfan Menai, gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud."
Mae Mr Hooper yn bwriadu adrodd yn ôl i'r Senedd yn gynnar yn yr Hydref.


Carcharu pedwar dyn am delio cyffuriau
Tonnau: agor cwest i farwolaeth dynes ifanc
Dyn yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad beic cwad
Carcharu deilwr cocên o Gaergybi
Criwiau'n delio â thân gwyllt Pentrefelin